Coron Eisteddfod 2012
Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg wedi ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn digwyddiad arbennig yn Y Barri.

Rhoddir y Goron gan Gyngor Bro Morgannwg, a’r wobr ariannol gan Islwyn ac Ann Jones, Gwenfô.

Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Anne Morgan o Benarth, Bro Morgannwg, a dyma’r tro cyntaf iddi greu Coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eleni, cyflwynir y Goron am ddilyniant o gerddi digynghanedd heb fod dros 250 llinell dan y teitl ‘Ynys’.  Y beirniaid yw Cen Williams, Cyril Jones a Penri Roberts.

Mae cynllun y Goron wedi’i ysbrydoli gan dirwedd dalgylch yr Eisteddfod eleni, gyda chreigiau a chlogwyni’r arfordir yn cael eu cynrychioli yn y cynllun.

Creu’r Goron

Defnyddiodd Anne Morgan dechneg arbennig  ar y Goron sy’n defnyddio fflam i drin yr arian er mwyn creu gwead arbennig ar y metel.

Yna, cyfunodd y dechneg hon gydag arian afloyw, sy’n creu gwead tebyg i erydiad y môr ar bethau fel gwydr a cherrig.

“Dyma’r Goron gyntaf i mi’i chreu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac rwy’n gobeithio’i bod yn adlewyrchu fy nheimladau am yr ardal a dalgylch yr Eisteddfod.,” meddai.

“Rwy’n byw ac yn gweithio yn ardal Penarth ers blynyddoedd, ac felly, yn naturiol, mae’r arfordir wedi ysbrydoli fy ngwaith.  Mae wedi bod yn anrhydedd cael rhoi’r ysbrydoliaeth yma ar waith i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.”

Croeso

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod bod y cynllun yn dangos yr hyn mae’r cynllunydd yn ei garu am ardal y Fro.

“Mae’n bleser gennym dderbyn y Goron hyfryd hon, sy’n adlewyrchu harddwch ein hardal,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Dylan Jones,  wrth dderbyn y Goron.

“Diolch i Gyngor Bro Morgannwg am eu haelioni, a gobeithio yn wir y bydd enillydd teilwng yn ei derbyn yn y seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun yr Eisteddfod yn Llandŵ.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Islwyn ac Anne Jones am eu haelioni, yn rhoi’r wobr ariannol sylweddol eleni.”

Ychwanegodd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Eric Hacker, eu bod nhw’n “edrych ymlaen i groesawu’r Eisteddfod i Fro Morgannwg ym mis Awst”.

“Mae’n anrhydedd bod yr Eisteddfod yn dod i’n hardal ni, ac yn falch iawn o gyflwyno’r Goron ar ran y Cyngor.  Mae Anne Morgan wedi cynhyrchu Coron fendigedig sy’n adlewyrchu harddwch y Fro.”

Y seremoni

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 6 Awst am 16.30.  Dylai unrhyw un sy’n mynychu’r seremoni sicrhau bod ganddynt docyn sedd gadw gan y bydd y Pafiliwn yn orlawn ar gyfer y Coroni.

Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.org.uk, neu drwy ffonio’r Linell Docynnau, 0845 4090 800.  Gellir hefyd brynu tocynnau yn y brif fynedfa ar y Maes ar y diwrnod.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.