Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar fesur a fydd yn sefydlu gofyniad statudol i awdurdodau bwyd weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd yng Nghymru.
Mae’r mesur hefyd yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd, fel bwytai, siopau tecawê ac archfarchnadoedd, i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliad.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r mesur er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr ynghylch ble maen nhw’n bwyta neu’n prynu bwyd, ac i wella arferion hylendid bwyd mewn busnesau.
“Bu diogelwch bwyd yn bwnc arbennig o emosiynol yng Nghymru ers yr achos o E.coli yn 2005,” meddai Mark Drakeford, AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
“Rwyf felly’n croesawu’r Bil hwn fel modd i wella safonau hylendid bwyd yng Nghymru.
“Er bod y cynllun gwirfoddol presennol wedi cael canlyniadau da, mae’r Bil yn gwneud trefniadau gorfodol i fesur iechyd cyhoeddus syml roi gwybodaeth hawdd ei deall, ar gip i ddefnyddwyr am safonau hylendid busnesau bwyd”.
“Bydd y Bil, os caiff ei basio, yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch bwyd ymhlith y cyhoedd ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau mwy hyddysg ynghylch ble i fwyta allan neu i brynu bwyd. Hwn fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei ystyried gan Aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn casglu barn a syniadau pobl ar y pwnc hwn.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y mesur yn dod i ben ar 29 Mehefin 2012.