Y ffagl Olympaidd
Mae trefnydd taith y fflam drwy Gymru wedi diolch i heddluoedd Cymru ac i bawb arall fu’n rhan o’r gwaith o wneud y daith yn llwyddiant.

Roedd ymgyrch aml-asiantaeth mewn lle er mwyn ymdopi â’r degau o filoedd o wylwyr a ddaeth allan i gefnogi Cludwyr y Fflam.

Dywedodd Comander Aur, y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Julian Kirby, yr hoffai ddiolch “i bawb yng Nghymru am weithio drwy’r sefyllfa unigryw hon”.

“Mae Heddluoedd, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid golau glas wedi cydweithio’n ardderchog i wneud yn siŵr bod popeth yn gweithio’n ddidrafferth dros y penwythnos,” meddai.

“Roedd y deunaw mis o gynllunio a pharatoi gofalus yn sicr werth yr ymdrech, gan alluogi Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd i basio’n rhwydd a’n ddiogel drwy Gymru.

“Fodd bynnag, mae’r cynlluniau gorau yn ddiwerth heb broffesiynoldeb a gwaith caled y rheiny ar lawr gwlad.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r holl swyddogion a staff sydd wedi gweithio ar daith y Fflam drwy Gymru.  Mae eu proffesiynoldeb, eu hamynedd a’u hiwmor di-ball wedi bod yn eithriadol.”

‘Ymateb da’

Dywedodd ei fod yn hapus gweld bod cymunedau a’r cyhoedd wedi troi allan i weld a chefnogi’r Fflam ar ei thaith ar hyd y llwybr cyfan.

“Mae eu hymateb i’n swyddogion ar hyd y llwybr wedi bod yn hynod gadarnhaol hefyd, gyda sawl neges o ddiolch yn ymddangos ar ein gwefannau rhwydweithio cymdeithasol i’n swyddogion ar y strydoedd a ymunodd yn y dathlu, gan ddangos pa mor broffesiynol y gall swyddogion heddlu Cymru fod wrth blismona digwyddiadau proffil uchel,” meddai.

“Mae Cymru wedi gosod y safon i weddill y Deyrnas Unedig anelu ati!

“Byddwn yn croesawu digwyddiad swyddogol cyntaf Gemau 2012 Llundain yn Stadiwm y Mileniwm, pan fydd y byd i gyd yn edrych arnom unwaith eto.  Bydd yn her arall, ond rydym yn edrych ymlaen ati, ac at sicrhau Gemau diogel a chofiadwy yma yng Nghymru.”

Mae’r Fflam Olympaidd bellach wedi gadael Cymru, pum diwrnod ar ôl cyrraedd Sir Fynwy ar ddydd Gwener, 25 Mai.

Fe aeth y Fflam ar ei thaith olaf allan o Gymru o’r Trallwng i’r Amwythig heddiw.

Yn ystod ei thaith drwy Gymru arhosodd y Fflam dros nos bedair gwaith – yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor – lle bu torfeydd mawr yn dathlu ei bod wedi cyrraedd.

Yn ogystal â bod yn rhan o’r daith gyfnewid, mae wedi teithio ar drên a chwch, ac wedi cyrraedd copa mynydd uchaf Cymru, yr Wyddfa.