Y ffagl Olympaidd
Bydd rhaid i fynychwyr y Gemau Olympaidd yn Llundain yn ystod yr haf dalu drwy eu trwynau am fwyd a diod.
Mae trefnwyr y gemau, sy’n disgwyl darparu bwyd ar gyfer 14 miliwn o gwsmeriaid mewn 40 ardal, wedi datgelu eu bwydlen ar gyfer y gemau heddiw.
Bydd rhaid i fynychwyr y Gemau Olympaidd yn Llundain dalu £2.10 am gacen de, £2.30 am gan o Coca-cola a £4.20 am botel 330ml o Heineken.
Bydd cwdyn o bysgod a sglodion yn costio £8, cyri yn costio £8.50, a bydd gwydryn 18.7cl o win coch yn costio £4.80.
Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys cig oen o Gymru.