Mae’r fflam Olympaidd ar ei chymal olaf yng Nghymru ar hyn o bryd wrth iddi ymlwybro dros y ffin o’r Trallwng i’r Amwythig.

Mae miloedd wedi tyrru i weld y fflam ar ei thaith trwy Gymru dros y pum diwrnod diwethaf, ond nid pawb sydd wedi bod yn gefnogol.

Heddiw cafodd gwrthdystiad ei gynnal ar Heol yr Wyddgrug yn Wrecsam dan faner goch, gwyn a glas oedd yn dweud “Not Our Colours.”

Mae’n debyg bod y protestwyr yn dadlau na fyddai Cymru yn elwa o’r Gemau Olympaidd.

Dim Cymro ar y copa

Ddoe mynegodd cyn-warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, John Ellis Roberts, ei siom na chafodd mynyddwr o Gymru ei ddewis i gludo’r fflam i gopa’r Wyddfa.

Dewis y trefnwyr oedd y Sais Syr Chris Bonington, sy’n adnabyddus am ddringo i gopaon mynyddoedd Everest, yr Eiger ac Annapurna.

Ond dywedodd John Ellis Roberts y byddai mynyddwr o Gymro wedi bod yn fwy addas i gludo’r fflam i gopa’r Wyddfa.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod taith y fflam wedi bod yn “gyfle bendigedig” i ddangos harddwch naturiol Cymru i’r byd.