Brendan Rodgers
Mae na bryderon ymhlith cefnogwyr Abertawe bod Brendan Rodgers, a arweiniodd yr Elyrch i’r Uwch Gynghrair, yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr newydd Lerpwl eto heddiw.

Deallir y byddai Abertawe yn derbyn £5 miliwn o iawndal pe bai Rodgers yn gadael.

Mae ei ymrwymiad i’r clwb yn amlwg, ac er ei fod wedi gwrthod cynnig Lerpwl 10 dydd ynghynt, mae’n ymddangos nawr fod ganddo ddiddordeb yn y swydd.

Ddoe, bu cyfarfod rhwng Rodgers a chadeirydd y clwb, Huw Jenkins.  Arwyddodd Rodgers gytundeb newydd o dair blynedd a hanner gyda’r Elyrch yn y gwanwyn.

Dywedodd Phil Sumbler, cadeirydd ymddiriedolaeth y cefnogwyr, ei fod wedi derbyn sawl neges gan gefnogwyr pryderus.

‘‘Mae Brendan Rodgers wedi bod yn wych yma.  Dydw i ddim yn credu bod yna un cefnogwr eisiau iddo adael Stadiwm y Liberty,’’ meddai Phil Sumbler.

Dyn arall sydd eisiau i Rodgers aros yw caplan y clwb, Kevin Johns.

‘‘Mae’n ddyn hyfryd ac wedi bod yn rheolwr arbennig i Abertawe sydd wedi cael y gorau allan o’i chwaraewyr.  Ac nid yn unig arwain ni i’r Uwch Gynghrair, ond yn cadw ni yno,’’ dywedodd.