Dean Keates (llun o wefan CPD Wrecsam)
Mae Wrecsam wedi llwyddo i gadw gafael ar eu capten dylanwadol Dean Keates am flwyddyn arall wedi iddo lofnodi cytundeb newydd heddiw.
Arwyddodd y chwaraewr canol cae o Wycombe Wanderers ddwy flynedd nôl ac ers hynny mae wedi chwarae 75 o weithiau ac wedi dod yn rhan allweddol o garfan Andy Morrell.
“Rwy’n hapus fod hyn wedi’i sortio ac yn edrych ’mlaen at dymor llwyddiannus arall” meddai Keates ar ôl arwyddo’r pnawn yma.
“Ein nod yw ennill dyrchafiad ac ar ôl dod mor agos llynedd bydd hynny’n ysgogiad i ni lwyddo’r tro yma.”
“Rŵan bod tîm gyda’r arian mawr, Fleetwood, wedi mynd dwi’n gobeithio bydd pethau’n fwy hafal, er bod rhai o’r timau wedi dangos eu bwriad yn barod.”
“Mae’n ymddangos y bydd llawer o’r bois ar gytundeb yn aros felly mae hynny’n rhoi craidd ar gyfer carfan dda, a bydd Mozza’n (Morrell) ychwanegu at hynny dros y misoedd nesaf.”
“Rydan ni’n sicr o fod i fyny yna eto ac yn gwybod beth sydd angen i fod yn cystadlu eto”