Mae adroddiad gan elusen heddiw yn dweud fod bwlch mawr rhwng cyrhaeddiad addysgol plant sydd o gefndir tlawd yng Nghymru a phlant sydd o gefndir mwy breintiedig.

Yn ôl adroddiad gan Achub y Plant mae plant sydd yn byw mewn tlodi 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau da yn eu TGAU na phlant o aelwydydd cyfoethocach, a dywed yr elusen fod angen “pontio’r bwlch tlodi” yng Nghymru.

Mae awdur adroddiad Cymunedau, Teuluoedd ac Ysgolion Gyda’i Gilydd, yr Athro David Egan, yn dweud nad yw’r bwlch tlodi mewn addysg yn lleihau yng Nghymru a bod angen “dod â chymunedau, teuluoedd ac ysgolion ynghyd i leihau effaith tlodi.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod lleihau’r bwlch tlodi yn un o’i thair blaenoriaeth ar gyfer addysg ac yfory mae disgwyl i Carwyn Jones gyhoeddi grant sylweddol i fynd i’r afael â thlodi a chyrhaeddiad addysgol. Dywedodd Achub y Plant eu bod nhw’n croesawu bwriad y Llywodraeth i leihau’r bwlch addysgol.

Awdur yr adroddiad

Bydd Yr Athro David Egan yn lansio’i adroddiad y prynhawn yma yng Nghanolfan Gynhadledd ESIS yn Nhrefforest. Dywedodd fod “Llywodraeth Cymru yn llygad ei lle i nodi mai gwella safon llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi yw’r prif ffyrdd i wella perfformiad addysgol yng Nghymru.”

“Mae’r adroddiad yn defnyddio amrediad o dystiolaeth, gan gynnwys profiadau dros 100 o ysgolion yng Nghymru, i gyflwyno’r ffordd ymlaen yn y meysydd hyn sy’n dod ag ysgolion, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd mewn strategaeth gyfannol.”

“Ni ddylai incwm rhieni benderfynu perfformiad addysgol”

Dywedodd pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, James Pritchard, fod y “gefnogaeth ychwanegol sy’n cael ei gyfeirio tuag at blant tlotaf Cymru drwy gyfrwng y Grant Amddifadedd Disgyblion yn gam i’w groesawu ond mae’n rhaid iddo gael ffocws manwl at sut i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad yn ein hysgolion.”

“Ni ddylai incwm eich rhieni orfod penderfynu pa mor dda y mae plentyn yn ei wneud yn yr ysgol, ond yn amlach na dim dyma sydd yn digwydd. Mae’r arian grant yma yn mynd i roi cyfle sydd ond yn dod unwaith mewn bywyd i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni yn yr ysgol ac mae angen i ni ei fachu.

“Gall cynlluniau fel Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd Achub y Plant ffurfio rhan o’r ateb. Mae ein model yn dod â rhieni, plant, y gymuned a staff yr ysgolion at ei gilydd i gydweithio ar ddatblygu sgiliau dysgu ac ymdopi i’r plant yn ystod eu misoedd cyntaf yn yr ysgol gynradd ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn gallu cael effaith bositif ar les y teulu a pherfformiad y plentyn yn yr ysgol.”