Bae Colwyn
Mae Maeres newydd Bae Colwyn wedi dweud wrth Golwg360 “nad yw pob traddodiad yn dda” ar ôl iddi wrthod gwisgo mantell draddodiadol y maer.

Dim ond ers wythnos y mae Viv Perry yn ei swydd a phenderfynodd wrthod gwisgo’r fantell ffwr ar sail egwyddor.

“Rwy wastad wedi cefnogi hawliau anifeiliaid” meddai.

“Dwi’n credu i hyn ddechrau pan oeddwn i’n fach – roedd gen i hen fodryb a oedd yn gwisgo sgarff o groen llwynog, a roedd traed y llwynog yn gorwedd ar un ysgwydd fy modryb a’i ben ar yr ysgwydd arall. Oedd gen i ofn y byddai’r peth yn fy mrathu!”

Dywedodd Viv Perry y bydd hi’n parhau i wisgo cadwyn aur y maer, ond nid dros fantell ffwr ond dros siaced goch.

“Mae gen i fy egwyddorion a wna i ddim gwisgo ffwr.” meddai Viv Perry.

Ni fydd y maer y flwyddyn nesaf yn gwisgo’r fantell ffwr ychwaith gan mai fy ngŵr i ydy o – fo ydy fy nirprwy i eleni a fo fydd fy olynydd i yn y swydd.

“Felly bydd y fantell ffwr allan o waith am ddwy flynedd o leiaf. Nid fy mod i’n ei gwisgo bob dydd – rhywbeth oedd yn dod allan ar gyfer seremoniau swyddogol o bryd i’w gilydd oedd hi.”

Dywedodd Viv Perry iddi gael ymateb da i’w phenderfyniad, ond bod un cynghorydd tref arall wedi datgan gwrthwynebiad am ei bod hi’n torri’r traddodiad.