Abdelbaset al-Megrahi
Mae’r unig ddyn i gael ei gyhuddo o ymosodiad bom Lockerbie ym 1988 wedi cael ei gladdu ger prifddinas Libya.
Roedd tua 100 o aelodau o deulu Abdelbaset al-Megrahi yn yr angladd yn Tripoli.
Roedd yn ddigwyddiad tawel o’i gymharu â’r croeso brwd a gafodd Megrahi gan yr Arlywydd Muammar Gaddafi pan ddychwelodd i Libya dair blynedd yn ôl ar ôl treulio wyth mlynedd yn y carchar yn yr Alban.
Yn groes i ddymuniad perthnasau’r rhai gafodd eu lladd, fe benderfynodd awdurdodau’r Alban ryddhau Megrahi yn 2009 ar ôl i feddygon ddweud y byddai’n marw o fewn ychydig fisoedd o ganlyniad i gancr y brostad.
Cafodd 270 o bobl eu lladd pan ffrwydrodd bom ar awyren Pan Am 103 yn yr Alban.
Roedd Megrahi, 60, wedi mynnu ei fod yn ddieuog.