Mae cymdeithas gwarchod anifeiliaid yr RSPCA yn gobeithio y bydd aderyn mawr o Awstralia sydd wedi ei weld ar faes golff yng Nghwm Rhymni, wedi cael ei ddal cyn diwedd y dydd.

Fe gafodd yr RSPCA ei galw  brynhawn ddoe i Westy Golff Bryn Meadows, Maesycwmer ger Y Coed Duon. Roedd golffwyr wedi gweld y creadur mawr yno, ac wedi sylwi ar bobol yn ei fwydo â brechdanau.

“Es i mas ar y cwrs mewn bygi golff, ac allen i ddim credu’n llygaid pan weles i’r emiw,” meddai Sophie Daniels, swyddog yr RSPCA.
“Fe ddaeth yr aderyn draw ata’ i, gan ddisgwyl cael rhywbeth i’w fwyta. Ond pan dries i ei ddal e, fe ddechreuodd gicio mor galed nes fod yn rhaid i fi adael iddo fe fynd.

“R’yn ni wedi hysbysu’r awdurdodau sy’n delio â iechyd anifeiliaid, ac r’yn ni wedi dweud wrth yr awdurdod lleol,” meddai Sophie Daniels.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd yr emiw wedi ei ddal cyn diwedd y dydd heddiw.”