Mae tafarn Owain Glyndŵr, Caerdydd, wedi troi cefn ar eu cynlluniau i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines dros benwythnos gŵyl y banc.
Roedd cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr wedi ymateb yn ffyrnig i gyhoeddiad y dafarn eu bod nhw’n bwriadu dathlu’r Jiwbilî ar 4 Mehefin.
Dywedodd perchnogion y dafarn wrth Golwg 360 na fydden nhw’n dathlu teyrnasiad 60 mlynedd y Frenhines.
Er mwyn bodloni’r cenedlaetholwyr, roedden nhw hefyd yn ystyried ail enwi’r dafarn drws nesaf o’r ‘Tair Pluen’ i rywbeth mwy Cymreig.
Dywedodd llefarydd ar ran perchnogion yr Owain Glyndŵr, Stonegate, eu bod nhw’n “gwmni mawr Prydeinig ond mae’n bwysig ein bod ni’n ymateb yn wahanol i anghenion cymunedau gwahanol”.
“Rydyn ni wedi siarad â rheolwr ac wedi penderfynu cael gwared ar unrhyw gyfeiriad at y Jiwbilî,” meddai.
“Roedd sylwadau’r bobol oedd wedi cwyno yn ddigon rhesymol. Rydyn ni’n ymwybodol o hanes Glyndŵr ac yn sylweddoli ei fod yn fater sensitif ac mae’n bwysig ein bod ni’n ymateb i farn pobol leol.
“Mae’n amlwg bod y peth wedi tramgwyddo nifer o bobol, a doedden ni ddim wedi bwriadu gwneud hynny o gwbl.
“Mae cynnal tafarn yn ddigon o waith heb greu drwg deimlad ymysg y bobol sy’n mynd yno. Rydyn ni’n dafarn fawr yng nghanol Caerdydd, ac fe allai pethau fod yn brysurach yno.
“Dydyn ni ddim am weld cenedlaetholwyr a siaradwyr Cymraeg yn osgoi defnyddio’r dafarn o ganlyniad i hyn.
“Fe fyddwn ni’n dathlu gŵyl y banc, ond mae modd gwneud hynny heb gyfeirio at y Frenhines.”
Dywedodd y llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw hefyd yn ystyried newid enw eu tafarn arall gerllaw, y Tair Pluen, i ‘Dafarn yr Eglwys’.
“Rydyn ni’n ymwybodol nad yw’r ‘Tair Pluen’ yn enw poblogaidd, felly rydyn ni’n ystyried newid yr enw. Mae’n rhywbeth yr ydym ni’n gweithio tuag ato,” meddai.