Bae Trearddur
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw am wybodaeth am ddyn 61 oed sydd wedi mynd ar goll.

Daethpwyd o hyd i’w gar ar lwybr arfordirol Bae Trearddur ar Ynys Môn.

Dyw’r heddlu ddim wedi enwi’r dyn ond wedi dweud ei fod o ogledd Cymru. Mae ganddo wallt brown ac roedd yn gwisgo crys siec a throwsus lliw golau.

Mae gwylwyr y glannau a’r RAF wedi bod yn chwilio amdano. Dylai unrhyw sydd wedi gweld y dyn heddiw ffonio’r heddlu ar 101.