Y Fflam Olympaidd yng Nghernyw
Mae aelodau dau o’r undebau yn BBC Cymru yn bwriadu mynd ar streic dydd Gwener i brotestio yn erbyn di-swyddo Heidi Williams, cadeirydd cangen y technegwyr BECTU yng Nghaerdydd.
Roedd mwyafrif o dri i un o aelodau BECTU, a mwyafrif llethol o aelodau’r NUJ, undeb y newyddiadurwyr o blaid y streic fydd yn parhau am 24 awr..
Mae BECTU eisiau gweld math arbennig o gymodi sydyn yn digwydd i benderfynu os oedd di-swyddiad Ms Williams yn deg ond mae’r BBC wedi gwrthod y cynllun gan gynnig cynnal cyfres arall o drafodaethau dan arweiniad barnwr sy’n arbennigwr ar gyfraith cyflogaeth.
Bydd y fflam Olympaidd yn cyrraedd Cymru dydd Gwener ac mae’r BBC wedi dweud y bydd y streic yn sicr o amharu ar ddarlledu taith y fflam o Drefynwy i Gaerdydd.