Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwilio am dri lleidr arfog wnaeth ddwyn arian o siop yn Wrecsam nos Iau.

Roedd y tri yn gwisgo balaclafas ac un yn cario cyllell pan wnaethon nhw fynd i’r siop tua 10 o’r gloch y nos a dwyn swm sylweddol o arian o’r til.

Chafodd neb ei anafu yn ystod y lladrad.

Rhedodd y tri i ffwrdd a bu plismyn efo cwn a’r hofrennydd yn chwilio amdanyn nhw ond heb ddod o hyd i unrhyw un o’r tri.

Fe wnaeth lleidr ddwyn o un o siopau eraill McColls yn LLannerchymedd ar Ynys Môn yn ystod yr un prynhawn ond dwy’r heddlu ddim yn amau bod yna gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.