Barrie Durkin
Mae’r Cynghorydd Barrie Durkin wedi cael ei wahardd am flwyddyn am fwlio a hambygio pennaeth materion cyfreithiol Cyngor Ynys Môn.
Cafodd ei wahardd o’i waith ar ôl i Banel Dyfarnu Cymru ganfod ei fod wedi mynd yn groes i gôd ymddygiad cynghorwyr wrth ymosod yn bersonol mewn modd maleisus a sarhaus ar onestrwydd a chywirdeb Lynn Ball.
Dywedodd y panel hefyd ei fod wedi methu ymddwyn yn barchus ac ystyrlon tuag at y cyn Gyfarwyddwr Rheolaethol dros dro, David Bowles, ond nad oedd wedi ei fwlio a’i hambygio.
Pendrfynodd y panel hefyd ei fod wedi dwyn anfri ar ei swydd ond cafodd ei glirio o safbwynt ei ymwneud a’r swyddog gwybodaeth, Huw Pritchard.
Roedd y Cynghorydd Durkin wedi dadlau mai ymgais i ddod a chamymddwyn ar yr ynys i lygad y cyhoedd oedd wrth wraidd ei ymddygiad ond gwrthodwyd hyn gan y panel.
Dywedodd y Cadeirydd, Helen Cole, “Nid beth wnaethoch chi oedd y broblem ond y modd anaddas yr aethoch chi o’i chwmpas hi.”
Cafodd Mr Durkin ei ethol yn 2008 i gynrychioli Llanbedrgoch. Chafodd o mo’i wahardd rhag gweithio fel cynghorydd felly fe fydd yn gallu sefyll i’w ail-ethol y flwyddyn nesaf pan ddaw y gwaharddiad i ben.