Y Trallwng
Mae Eirios Hall, fu’n bennaeth ysgol fabanod Ardwyn yn y Trallwng wedi cael ei gwahardd rhag dysgu am flydd gan Gyngor Addysg Cyffredinol Cymru.

Roedd yn wynebu 14 o gyhuddiadau gan gynnwys codi un plentyn gerfydd ei siwmper, gwneud i blentyn pedair oed grio a cheryddu plentyn sydd gan nam ar ei leferydd am beidio siarad yn glir.

Gwadodd Hall, sy’n 59 oed, y cyhuddiadau ond penderfynodd y panel bod digon o dystiolaeth i gefnogi saith o’r cwynion a bod pedwar arall wedi cael eu profi’n rhannol.

Penderfynodd y panel hefyd nad oedd yn  bosibl cefnogi dau arall o’r cywnion.

Athrawon yn cwyno

Daeth ei hymddygiad i’r amlwg ar ôl i bedwar o athrawon gwyno wrth yr awdurdodau amdani..

Cafodd ei gwahardd o’i gwaith yn 2010 er mwyn cynnal ymchwiliad i’r honniadau a chafodd ei diswyddo yn ystod yr haf llynedd.

Roedd Hall wedi gwadu ei bod wedi colli ei thymer a dywedodd ei chyfreithiwr, Robert Vernon, bod yr achos wedi cael effaith arni gan ei gwneud yn ynysig ac yn methu cyfathrebu efo ffrindiau a chyn gyd-weithwyr.

Dywedodd cadeirydd y panel, Jacqueline Turnball, bod yr aelodau wedi ystyried sawl geirda, ei gyrfa hir a record di-nam Mrs Hall cyn penderfynu.