Fe fydd gweithwyr canolfan alwadau Gymraeg yng Nghaernarfon yn cynnal rali ar y Maes fory, er mwyn trio achub eu swyddi.

Ddechrau Mawrth, fe glywodd 32 o weithwyr sy’n ateb y ffôn yn Gymraeg I gwsmeriaid cwmni trydan Scottish Power y byddai eu swyddfa yn Ffordd Santes Helen yn cau ddiwedd y mis hwnnw.

Trwy lobïo, ymgyrchu a thynnu sylw at y mater ar wefannau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, mae ganddyn nhw, bellach, tan ddiwedd mis Mehefin cyn y bydd y cwmni yn dweud be’ fydd yn digwydd nesa’. 

Mae Scottish Power wedi cynnig i’r 32 o weithwyr yng Nghaernarfon adleoli i swyddfa Wrecsam, ond fe fyddai hynny’n golygu teithio cyfanswm o 150 o filltiroedd bob dydd, i’r gwaith ac yn ôl.

Y rali

Yn ystod y rali ar Y Maes, Caernarfon, fory, sydd wedi ei threfnu gan Blaid Cymru, mae disgwyl i’r Aelod Seneddol Hywel Williams; yr Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones, ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, annerch.

Stori gweithiwr

“Dw i wedi bod yn gweithio yma ers deuddeg mlynedd,” meddai un wraig wrth golwg360, gan ddewis aros yn ddienw rhag gwylltio ei chyflogwyr. 

“Rydan ni’n delio efo holl alwadau ffôn y cwmni sy’n dod gan bobol sydd isio gwasanaeth Cymraeg, ac mi ydan ni hefyd yn delio efo negeseuon e-bost Cymraeg sy’n dod i mewn.

“Mi ddaeth y newyddion bod y ganolfan yn cau fel dipyn o sioc… oedd yna sôn wedi bod tua dwy flynedd yn ôl, ond mi oedd hynny wedi pasio… a rwan, dydan ni ddim yn gwbod be’ fydd yn digwydd ddiwedd Mehefin.

“Mae’r undebau wedi bod yn dda iawn efo ni, chwarae teg,” meddai’r weithwraig wedyn. “UNISON sy’n edrych ar ein holau ni yn fan hyn, ond mae’r GMB ac Unite a’r Farmer’s Union of Wales yn ein cefnogi ni hefyd.

“Y peth ydi, Scottish Power sydd biau’r adeilad o hyd. Mi fasa hi’n costio £900,000 iddyn nhw ein hanfon ni i weithio i Wrecsam, ond dydi hi ‘mond yn costio £20,000 iddyn nhw gadw’r adeilad yng Nghaernarfon. Dydi o ddim yn gwneud sens.”