Mae aelod o’r BMA, sy’n cynrychioli dros 5,000 o feddygon yng Nghymru,  yn siomedig fod y corff wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad yw’r “amser na’r hinsawdd ariannol yn iawn ar gyfer gorfodi gofynion ieithyddol ar gyrff y Gwasanaeth Iechyd.”

Roedd y BMA yn ymateb i ymgynghoriad ar strategaeth yr iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal – ‘Mwy na Geiriau’.

Dywedodd Dr Bruce Lervy o Abertawe ei fod yn “siomedig iawn clywed nad yw’r BMA yn ystyried cyfathrebu yn elfen hanfodol o driniaeth feddygol.

“Byddai cefnogi’r Gymraeg ddim yn tynnu oddi wrth y gwasanaethau ond yn eu gwella,” meddai’r cyn-feddyg teulu a fu’n uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

“Rhaid cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod o argyfwng ariannol, ond yng Nghymru mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal.

“Ni ddylai fod yn fwy derbyniol i awgrymu nad oes angen i gleifion yng Nghymru gyfathrebu yn Gymraeg yn fwy na byddai dweud hynny am y Saesneg.

“Dylai trigolion Cymru, yn ddieithraid, fod â’r hawl i ddefnyddio’r iaith genedlaethol, sef y Gymraeg.”

Ers ymddeol y dysgodd Bruce Lervy Gymraeg, ac mae’n gresynu na chafodd ei annog ei ddysgu’r iaith pan oedd yn feddyg teulu.

“Byddwn i wedi cynnig gwasanaeth gwell i gleifion Cymraeg taswn i’n siarad yr iaith bryd hynny,” meddai.