Roedd dyn ifanc yn ei arddegau a ddefnyddiodd forthwyl i geisio amddifyn siop ei deulu, wedi defnyddio “mwy o rym nag oedd yn rhesymol”, yn ôl barnwyr y Llys Apêl heddiw.
Roedd Tolga Yaman, a oedd yn 18 oed ar y pryd, wedi taro un o’r lladron ar ei ben gyda’r morthwyl, ar ôl gyrru heibio i’r siop bwyd cyflym ar Ffordd y Gogledd, Caerdydd, ym mis Gorffennaf 2010, a gweld fod gorchudd diogelwch y siop wedi ei godi.
 
Ond, yn ôl tri o farnwyr y Llys Apêl, roedd Yaman wedi camddehongli’r sefyllfa. Roedd y dynion yn y siop ar berwyl hollol gyfreithlon, yn datgysylltu meter nwy ar ôl honiadau nad oedd y bil wedi ei dalu. Saer cloeon oedd y gŵr a gafodd ei daro ar ei ben.
 
Roedd y barnwyr yn credu fod Tolga Yaman wedi’i argyhoeddi ar y pryd fod y dynion yn lladron, ac mai nid ymosodiad oeraidd oedd o. Ond, fe benderfynon nhw fod y grym ddefnyddiwyd yn ormodol.
 
Fe gafwyd Tolga Yaman yn euog o anafu’n fwriadol gyda’r bwriad o achosi niwed difrifol, mewn achos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Hydref y llynedd, ac fe gafodd ei ddedfrydu i flwyddyn yn y carchar.
 
Roedd Tolga Yaman wedi gofyn i’r Llys Apêl ddileu’r dyfarniad hwnnw. Ond fe wrthododd y barnwyr Ustus Hooper, Ustus Cooke ac Ustus Beatson wneud hynny.