Ryan Giggs
 
Mae’r pel-droediwr Ryan Giggs wedi setlo ei achos yn erbyn News Group Newspapers am iawndal oherwydd i’w ffôn gael ei hacio.
 
Yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw, clywyd fel y mae’r achos a ddaeth gerbron y barnwr Mr Ustus Vos ar Ebrill 20, bellach wedi cael ei setlo. Ond mae cyfreithwyr yn gwrthod datgelu faint o arian y bydd y pel-droediwr yn ei dderbyn, gan fod manylion y setliad “yn gyfrinachol”.
 
Mae yna 46 o achosion eto i’w clywed yn yr ail don hon o weithredu cyfreithiol ar ran pobol gyhoeddus sy’n honni fod eu ffonau personol wedi cael eu hacio a negeseuon wedi eu codi a’u recordio.
 
Rhai o’r enwau mawr eraill sydd wedi penderfynu dwyn achos ydi’r canwr James Blunt; y pêl-droediwr Peter Crough a’i wraig Abigail Clancy; y bocsar Chris Eubank; y gwleidydd Nigel Farage; y pêl-droediwr Kieron Dyer; cyn-wraig y golffiwr Colin Montgomerie, Eimear Cook; y cyflwynydd teledu Jamie Theakston; gwraig y cyn-Brif Weinidog Tony Blair, Cherie Booth; yr actor James Nesbitt; y chwaraewr rygbi Matt Dawson; a’r pêl-droediwr Wayne Rooney.