Elfyn Llwyd
Mae arweinydd seneddol Plaid Cymru’n pwyso ar y llywodraeth i amddiffyn “y pedwerydd gwasanaeth brys” rhag unrhyw gynlluniau pellach i breifateiddio.
Rhybuddia Elfyn Llwyd y bydd bywydau mewn perygl os bydd preifateiddio’r gwasanaethau Chwilio ac Achub yn mynd ymlaen.
Wrth ymateb i adroddiadau fod preifateiddio’r gwasanaethau yma wedi cael eu rhoi o’r neilltu am y tro, dywed Elfyn Llwyd ei fod “dal yn bryderus iawn am agenda preifateiddio’r llywodraeth” ac mai “peryglus iawn oedd eu cynlluniau i ddechrau gwerthu’r gwasanaethau Chwilio ac Achub i ddechrau.”
“Mae llawer yn meddwl am y gwasanaethau Chwilio ac Achub fel y pedwerydd gwasanaeth brys,” meddai.
“Gall y moroedd o gwmpas Cymru fod yn dwyllodrus, a does dim amheuaeth fod y patrolau hofrennydd a hyfforddwyd yn filwrol wedi helpu i achub llawer o fywydau a chynnal y safonau achub uchaf.
“Rhaid i lywodraeth Prydain addo yn awr i roi’r gorau i gynlluniau i werthu’r gwasanaeth hanfodol hwn sydd yn achub bywydau – neu fe fyddwn mewn perygl o’i werthu’n rhad er mwyn arbed ambell geiniog, a bydd bywydau mewn perygl.”