Mae’r cynghorydd David Jones wedi cael ei ethol yn arweinydd Cyngor Sir Powys.

Heddiw bu’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy, Glyn Davies yn croesawu’r newyddion.

Dywedodd fod David Jones a’i dim yn “wynebu cyfnod heriol iawn i ddarparu gwasanaethau mewn cyfnod economaidd anodd, ac mae’n haeddu ein cefnogaeth.”

Yn gynharach yr wythnos hon cafodd clymblaid ei ffurfio yn Sir Fynwy gyda’r  Ceidwadwyr yn arwain gyda chefnogaeth aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Enillodd y Ceidwadwyr 19 sedd ar y cyngor, tair sedd yn brin o fwyafrif, gan  ffurfio clymblaid gyda grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd â thri chynghorydd.