Dyfed Edwards
Mae Cyngor Gwynedd heddiw wedi ethol arweinydd grŵp Plaid Cymru, Dyfed Edwards, yn Arweinydd Cyngor Gwynedd.
Dyfed Edwards oedd Arweinydd Cyngor Gwynedd o 2008 tan yr etholiadau ar 3 Mai ac mae’n cynrychioli sedd Penygroes a hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Ddoe cyhoeddod Plaid Cymru eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda’r pedwar cynghorydd Llafur ar Gyngor Gwynedd er mwyn rheoli gyda mwyafrif. Mae gan Blaid Cymru union hanner y cynghorwyr ar y Cyngor – 37 allan o 74.
Y Cynghorydd Selwyn Griffiths o Borthmadog a gafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Huw Edwards o Gaernarfon yw’r is-Gadeirydd.
“Gwynedd well”
Ar ei ethol yn Arweinydd dywedodd Dyfed Edwards ei fod yn edrych ymlaen at weithio tuag at “greu Gwynedd well lle bydd ein cymunedau a’r iaith Gymraeg yn ffynnu.
“Mae’r cyd-destun heriol yn golygu bod trigolion y sir yn edrych tuag atom ni ar Gyngor Gwynedd i greu agenda amgen – agenda o gyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf ac agenda o newid er gwell.
“Fel un o dîm y byddaf yn arwain y gwaith hwn ac mae gan bawb gyfraniad i’w wneud – yn aelodau o bob plaid, swyddogion a gweithlu’r Cyngor” meddai.