Peter Hain
Ni fydd achos dirmyg llys Peter Hain yn parhau ar ôl i Dwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon a chyfreithiwr Aelod Seneddol Castell Nedd ddod i gyfaddawd.

Roedd Peter Hain yn destun achos dirmyg llys ar ôl iddo wneud sylwadau am farnwr o Ogledd Iwerddon yn ei hunangofiant.

Daeth yr achos i ben brynhawn yma ar ôl i Peter Hain a’i gyhoeddwyr addo rhoi troednodyn yn yr hunangofiant sy’n esbonio’r sylwadau dadleuol am yr Arglwydd Ustus Girvan.

Ar ôl derbyn llythyr gan Peter Hain yn esbonio’i sylwadau dywedodd Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon John Larkin “Petai’r mater hwn wedi cael ei esbonio ynghynt yna ni fyddai’r achos hwn wedi mynd yn ei flaen.”

Yn ystod yr achos yn Belffast y bore ‘ma fe ddarllenodd John Larkin lythyr gan Peter Hain a ddywedodd nad oedd bwriad ganddo i danselio hygrededd nac annibyniaeth y farnwriaeth yng Ngogledd Iwerddon.

Ychwanegodd Peter Hain ei fod wedi gweithio’n galed tra’n ysgrifennydd gwladol i gael cefnogaeth i’r union bethau hynny “gan bob rhan o’r gymuned.”

Mewn gwrandawiad cynharach roedd cyfreithwyr ar ran Peter Hain a’i gyhoeddwyr wedi codi amheuaeth dros fodolaeth y fath drosedd â “dirmygu barnwr” erbyn hyn.

Ym mis Ebrill roedd David Davis AS wedi gwneud cynnig ben bore yn San Steffan yn datgan pryder fod “y drosedd hynafol o ddirmygu barnwr, a oedd wedi darfod amdani ar ddiwedd yr 19eg ganrif, wedi ei defnyddio.”