Atomfa'r Wylfa
Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi dweud ei fod yn “llawer mwy optimistaidd” am ddyfodol y Wylfa yn dilyn cyfarfod gydag uwch-swyddogion cwmni niwclear Horizon.

Bu’r Cynghorydd Bryan Owen,  Ieuan Wyn Jones AC ac Albert Owen AS, mewn cyfarfod gyda pherchnogion atomfa’r Wylfa’r wythnos yma a dywed y Cynghorydd Bryan Owen eu bod nhw “wedi cael trafodaeth adeiladol a bod diddordeb gwirioneddol yn Ynni Niwclear Horizon gan fuddsoddwyr newydd.”

Ychwanegodd, “Rwy’n teimlo’n llawer mwy optimistaidd yn dilyn y cyfarfod yma sy’n newyddion da i bobl Ynys Môn a Gogledd Cymru, yn enwedig er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith da i’n bobl ifanc a chyfleoedd fusnes i’n cwmnïau lleol.”

Cwmnïau RWEnpower a E-ON Uk sy’n berchen ar y cyd ar Horizon, sef y cwmni sy’n rhedeg atomfa’r Wylfa.

Ddiwedd mis Mawrth fe gyhoeddodd y cwmnïau Almaeneg eu bod nhw’n rhoi’r gorau iddi yn sgil costau cynyddol, ac maen nhw nawr yn gobeithio gwerthu eu prosiect niwclear Horizon sy’n werth tua £16 biliwn.

Mae gwleidyddion wedi bod yn ceisio arbed swyddi a chynlluniau prentisiaeth yn y Wylfa tra bod mudiad PAWB wedi bod yn gwrthwynebu datblygu ail atomfa ac yn tynnu sylw at beryglon ynni niwclear.