Maes awyr Caerdydd
Mae pennaeth Maes Awyr Caerdydd wedi gadael ei swydd ac mae’r maes awyr eisoes wedi penodi olynydd, sef cyn-swyddog o’r RAF a fu’n datblygu maes awyr Basra yn Irac.

Gadawodd Patrick Duffy ei swydd yn ddisymwyth yr wythnos hon, ddyddiau ar ôl i Brif Weinidog Cymru ddweud wrth raglen deledu y dylai’r perchnogion fuddsoddi arian yn y maes awyr neu ei werthu.

Mae’r Maes Awyr wedi cyhoeddi fod Debra Barber wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredu.

Bu Debra Barber yn Grŵp-gapten yn y Llu Awyr ac yn Gomander rheoli traffig yr RAF, a bu’n gweithio ar ehangu maes awyr Basra yn Irac ac ar baratoadau’r Llu Awyr ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Dywedodd Debra Barber ei bod hi wrth ei bodd yn ymuno â maes awyr Caerdydd.

“Rwyf wedi ymweld â Chymru sawl gwaith yn ystod fy ngyrfa, gan gynnwys amryw tro i feysydd y Llu Awyr yn y Fali a Sain Tathan.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod cefn gwlad fendigedig de Cymru a dod yn rhan o’r gymuned yng Nghaerdydd,” meddai.