Zia Khan
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am gymorth i ddod o hyd i ddyn sydd wedi bod ar goll o’i gartref yn Y Rhyl ers 18 Ebrill.

Mae Zia Khan yn dod o  Afghanistan ac mae ganddo wallt byr tywyll, mae’n denau o ran corff a thua 5’2” o daldra.

Cafodd ei weld y tro diwethaf yn gwisgo côt ddu, crys polo brown, jîns du ac esgidiau hyfforddi Nike du.

Mae’r Heddlu’n credu y gallai Zia Khan fod yn ardal Manceinion.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.