Owen Smith
Cafwyd cadarnhad prynhawn ma mai Aelod Seneddol Pontypridd Owen Smith fydd llefarydd newydd Llafur ar Gymru.
Mae’n dilyn cyhoeddiad Aelod Seneddol Castell-nedd Peter Hain ddoe ei fod yn gadael mainc flaen yr wrthblaid.
Cafodd Owen Smith ei ethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2010.
Dywedodd Owen Smith ei fod yn “fraint” cael ei benodi i’r swydd ac mae wedi dweud mai ei flaenoriaeth fydd cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru yn y Senedd a ffurfio partneriaeth gadarn gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones.
Ychwanegodd bod Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi methu â chynrychioli Cymru o fewn y Llywodraeth a’i bod wedi methu â chynnig cynlluniau i greu swyddi a hybu’r economi yng Nghymru.
Roedd Owen Smith hefyd wedi rhoi teyrnged i Peter Hain gan ddweud ei fod yn “ysbrydoliaeth”.