Fe glywodd ynadon yn Y Fflint sut y bu cyn-gynghorydd o’r sir honno’n hawlio budd-daliadau yn enw ei wraig am bron i ddwy flynedd ar ôl iddi farw.

Roedd Michael Mills yn teimlo mor euog am orfod diffodd y peiriant cynnal bywyd a fu’n ei chadw’n fyw yn yr ysbyty, yn ôl ei amddiffyniad, nes ei fod wedi methu â derbyn y farwolaeth ac wedi parhau i fyw fel cynt.

Roedd gwraig Michael Mills, Brenda, wedi marw yn 2010, ond roedd yntau wedi parhau i fynd i swyddfa’r post i godi arian yn ei henw hi. Mae wedi ei gyhuddo o hawlio dros £20,000 o fudd-daliadau ar gam, wedi i rywun gysylltu â’r awdurdodau.

Mae’r gŵr 64 mlwydd oed wedi cyfaddef 14 o gyhuddiadau yn ymwneud â hawlio £21,357 o daliadau nad oedd yn ddyledus iddo. Mae’r rheiny’n cynnwys £2,089 o gredydau pensiwn; £5,239 o fudd-dal gwarchodwr; £4,066 o bensiwn gwladol; a £9,962 o fudd-dal anabledd.

Fe fu Michael Mills yn gynghorydd tref yn Nhreffynnon am 20 mlynedd ac fe fu’n gwneud gwaith da yn y gymuned. Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod nes y bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.