Y Senedd
Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad heddiw wedi bod yn trafod deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y gair ‘Wales’, a defnyddio ‘Cymru’ yn unig.

Roedd deiseb gan Dennis Morris, a gafodd ei lofnodi gan 119 o bobol, yn dweud bod “Wales yn tarddu o’r gair Eingl-Sacsonaidd am rywun estron.”

“Mae’r enw hwn yn sarhaus, a dylid galw ein cenedl yn ôl ei henw gwreiddiol, sef ‘Cymru’.

“Ar ôl i ni gael ein galw’n estroniaid am dros fil o flynyddoedd, teimlwn ei bod yn amser cael gwared ar yr enw diraddiol hwn” ychwanega’r ddeiseb.

Penderfynodd y Pwyllgor gau’r ddeiseb gan fod y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Llywydd Rosemary Butler yn erbyn y syniad.

“Dim bwriad cael newid enw arall”

Mewn ymateb ysgrifenedig yn Saesneg at Gadeirydd y Pwyllgor, William Powell AC, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones

“Tra fy mod i’n parchu barn y deisebwyr, mae’n fy nharo i fod mwyafrif helaeth pobol Cymru yn hapus i alw eu hunain yn ‘Welsh’ a’r wlad yn ‘Wales’.

“Yn dilyn refferendwm ar bwerau deddfu ym Mawrth 2011 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach yn cael ei galw yn Llywodraeth Cymru. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ysgogi newid enw arall.”

National Assembly for Cymru

Mynegodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, ei amheuaeth hi dros newid enw Cynulliad Cymru yn y Saesneg gan y byddai angen newid Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’r gallu i wneud hynny y tu hwnt i bwerau’r Cynulliad.

Dywedodd Rosemary Butler fod Prif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad wedi cynghori na fyddai modd defnyddio National Assembly for Cymru yn “anffurfiol” yn hytrach na National Assembly for Wales gan y byddai hynny’n “creu dryswch ac ansicrwydd.”

“Nid yw hyn yn sylw ar rinweddau’r ddeiseb ond yn hytrach ar y ffyrdd o wireddu’r cynnig” ychwanegodd y Llywydd.

Cerflun dafad

Bu’r Pwyllgor Deisebau hefyd yn ystyried deiseb gan y Parchedig Christopher Trefor Davies i godi cerflun o ddafad yn y Senedd i anrhydeddu amaeth yng Nghymru.

Bydd y ddeiseb, sydd wedi casglu 17 o lofnodion, nawr yn cael ei ystyried gan y Llywydd Rosemary Butler.