Mae tân mewn ffatri ger Llanhilleth ym Mlaenau Gwent wedi achosi oedi i drenau ac wedi cau ysgol gynradd am y dydd.

Mae 70 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn gweithio dros nos i ddiffodd y tân mewn ffatri ar ystâd ddiwydiannol Glandŵr.

Mae Network Rail wedi cyhoeddi nad yw trenau Arriva yn rhedeg rhwng Glyn Ebwy Parkway a Cross Keys o achos bod y tân yn agos at y rheilffordd. Mae bysys yn cludo teithwyr rhwng y ddwy orsaf hyd 11.30 y bore ‘ma ac mae disgwyl y bydd y gwasanaeth rhyw 20 munud yn arafach nag arfer.

Mae gorsaf Llanhilleth wedi cau o achos y mwg ac mae cyngor bwrdeistref Blaenau Gwent wedi cyhoeddi fod ysgol gynradd Sant Illtyd yn Llanhilleth hefyd wedi cau o achos y mwg.