Mae’r corff sy’n arolygu addysg yng Nghymru wedi dweud nad yw ysgolion uwchradd Cymru yn cynllunio digon er mwyn dysgu sgiliau sylfaenol megis rhifedd a chyfathrebu.

Yn ôl arolygwyr Estyn mae ysgolion Cymru yn rhoi blaenoriaeth ar ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn esgeuluso dysgu sgiliau sydd ddim yn cael eu hasesu mewn modd uniongyrchol.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Ann Keane, mai “dim ond ychydig o ysgolion sy’n cynllunio’n llwyddiannus ar gyfer datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm, er bod gan bron pob ysgol rywun sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu a gweithredu medrau.”

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi heddiw gan Estyn ar effaith y Fframwaith Sgiliau yng nghyfnod allweddol 3.

“Rhy fras”

Cafodd y Fframwaith Sgiliau ei gyflwyno yn 2008 er mwyn datblygu sgiliau pobl ifanc Cymru ym meysydd cyfathrebu, rhifedd, meddwl a thechnoleg gwybodaeth ond dywedodd Ann Keane nad yw’r fframwaith wedi bod yn “ddigon dylanwadol.”

Daeth arolygwyr i’r casgliad fod y disgrifiadau yn y Fframwaith Sgiliau yn “rhy fras” i fod o ddefnydd i athrawon.

Mae’r adroddiad yn argymell sicrhau bod datblygiad medrau’n cael ei gynllunio’n well ac yn cael ei asesu a’i olrhain yn effeithiol.

Mae hefyd yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn “darparu strwythur symlach y gall ysgolion ei ddefnyddio’n hawdd cynllunio, asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn datblygu medrau.”