Morglawdd Hafren
Ar y diwrnod y cyhoeddodd Peter Hain ei fod yn ymddiswyddo o fainc flaen yr wrthblaid er mwyn arwain yr ymgyrch seneddol i wireddu Morglawdd Hafren, mae mudiad amgylcheddol wedi dweud mai’r morglawdd yw’r “opsiwn anghywir.”

Dywedodd Peter Hain mai Morglawdd yr Hafren fydd y prosiect buddsoddi mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol a’r prosiect ynni adnewyddol mwyaf yn Ewrop. Ychwanegodd mai hwn yw’r “cyfraniad mwyaf gallaf i ei wneud ar hyn o bryd – hen bryd ei wireddu.”

Ond mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi dweud fod cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi’r opsiwn anghywir, ac y gallai’r morglawdd gael “effaith ddinistriol ar yr amgylchedd” ac atal technolegau eraill rhag elwa o bŵer y llanw.

‘Effaith amgylcheddol enfawr’

“Byddai rhwystr concrid anferthol sy’n ymestyn ar draws aber yr Hafren yn gallu cael effaith amgylcheddol enfawr, ac yn dinistrio cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol,” meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Mae harneisio pŵer y moroedd o amgylch Cymru yn bwysig ond nid y prosiect yma yw’r ateb cywir.

“Mae’n bosib dal pŵer y llanw trwy ffyrdd eraill sy’n llai niweidiol ac a fydd yn darparu ynni gwyrdd ynghynt na’r ugain mlynedd fydd hi’n cymryd i godi’r morglawdd yma.

“Gall rhoi ein hwyau i gyd mewn un fasged fentrus amharu ar bosibiliadau eraill,” ychwanegodd Gareth Clubb.

Yn ôl astudiaeth ar ran Llywodraeth Prydain yn 2010 nid oedd “achos digonol” ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus mewn cynllun ynni yn aber yr afon Hafren, ond roedd yr adroddiad yn argymell “cadw’r opsiynau ar agor” ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol.