Brent John McCarthy, a Lee Thomas Davies, dde
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enwau’r ddau filwr a gafodd eu lladd ddydd Sadwrn gan aelodau o heddlu Afghanistan.
Roedd Lee Thomas Davies yn 27 oed ac yn dod o Gaerfyrddin a Brent John McCarthy yn 25 ac dod o Telford Swydd Amwythig.
Roedd Lee Thomas Davies yn is-Gorpral yn y Gwarchodlu Cymreig. Dywedodd yr is-Gyrnol Dino Bossi o’r Gatrawd Gymreig fod brwdfrydedd a ffitrwydd Lee Davies wedi gwneud argraff dda ar bawb a bod y ffaith iddo ddringo’r rhengoedd yn “dweud cyfrolau am safon y dyn rydym ni wedi colli.”
Ychwanegodd y bydd y Gatrawd yn gweld ei eisiau yn fawr.
Roedd y ddau filwr yn darparu diogelwch yn ystod cyfarfod gyda swyddogion lleol pan saethodd dau berson mewn gwisg heddlu Afghanistan atyn nhw.