Gareth Roberts a Nia Parry, cyflwynwyr y rhaglen
Bydd cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, y tenor Wynne Evans a’r cyflwynydd newyddion Lucy Owen ymhlith y selebs  a fydd yn cymryd rhan yn y gyfres cariad@iaith ar S4C ddiwedd y mis.

Yn ymuno â nhw fe fydd yr actor Robert Pugh, cyn gystadleuydd ar yr X-Factor Lucie Jones, cyflwynydd CBeebies Alex Winters, yr actores Di Botcher a chyflwynydd Scrum V Lisa Rogers.

Fe fyddan nhw’n ymddangos i ddechrau mewn dwy raglen ragflas ar 23 a 24 Mai am 8.25pm, ac wedyn, rhwng 26 a 31 Mai, fe fydd Nia Parry a Gareth Roberts y cyflwyno rhaglenni bob nos yn fyw o wersyll fforest ger Cilgerran.

Bob dydd bydd y criw yn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn, ac yn profi eu sgiliau newydd mewn cyfres o dasgau ieithyddol.

Y dysgwyr yn edrych ymlaen

Wynne Evans, tenor o Gaerfyrddin, sy’n bennaf adnabyddus fel Gio Compario ar yr hysbyseb deledu:
“Mae pobl yn meddwl mod i’n gallu siarad Cymraeg, ond alla i ddim. Mae gen i eirfa dda ond mae angen i mi gymryd y cam olaf i ddechrau ei siarad.”

Alex Winters, cyflwynydd teledu plant sydd wedi ei fagu yng Nghaerdydd:
“Rwy’n difaru peidio parhau â’r Gymraeg. Mae cariad@iaith yn gyfle gwych i geisio mynd i’r afael â’r iaith.”

Di Botcher, yn wreiddiol o Bort Talbot, sy’n wyneb cyfarwydd mewn dramâu a ffilmiau Cymreig:
“Wrth fynd o dan yr haenau dwi’n siŵr bydd rhywfaint o’r Gymraeg sydd gen i yn dod i’r wyneb. Dwi’n awyddus i weld faint alla i ddysgu mewn wythnos.”

Lucie Jones, cyn-gystadleuydd ar yr X-Factor a gafodd ei magu ym Mhentyrch, Caerdydd:
“Dwi yn hoffi her. Doeddwn i ddim yn ddisgybl da iawn yn yr ysgol ond dwi’n gobeithio y bydda i’n fyfyriwr gwell y tro yma.”

Robert Pugh, actor o Abercynon sydd wedi serennu mewn ffilmiau Hollywood:
“‘Dwi wrth fy modd ag ieithoedd ac rwy’n gobeithio erbyn diwedd yr wythnos gallu cynnal sgwrs gyda fy nith.”

Lucy Owen, cyflwynydd BBC Wales Today a X-Ray a gafodd ei magu yng Nghaerdydd:
“Er bod yr iaith o’m cwmpas i, dydw i ddim wir yn rhan ohono. Rwy’n gobeithio mai dyma yw fy nghyfle i!”

Lisa Rogers, cyflwynydd Sports Wales a Scrum V a ddaw’n wreiddiol o Drellech, Mynwy:
“Ar ôl dychwelyd i fyw a gweithio yng Nghymru, dwi o leiaf eisiau dysgu sut i ynganu geiriau yn gywir!”

Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru o Sarn, ger Pen-y-bont ar Ogwr:
“Mae’n beth gwych i’w wneud. I mi, y cwestiwn yw pamna fuaswn i eisiau cymryd rhan?”