Mae cefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd wedi datgan eu syndod dros fwriad i newid lliw crysau’r clwb i goch, ac yn dweud y byddan nhw’n gwrthdystio.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd fod Prif Weithredwr Caerdydd, Alan Whiteley, wedi amlinellu cynlluniau i newid y crysau cartref i goch a chael draig yn fathodyn yn hytrach na gwennol las.
Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd fod bwriad gan y perchennog o Malaysia, Vincent Tan, i fuddsoddi £100m yn y clwb a chynyddu maint y stadiwm i 35,000 o seddi.
Croesawodd cadeirydd Ymddiriedolaeth y cefnogwyr, Tim Hartley, y buddsoddiad ond mynegodd ei siom am y newid i’r crysau.
“Am genedlaethau mae pobol wedi cael eu magu yn Adar Gleision ac mae cael gwybod y tymor nesaf ein bod ni’n Ddreigiau sy’n gwisgo coch yn gam rhy bell.
“Rydym ni’n gwerthfawrogi buddsoddiad y Malaysiaid ond baswn i’n eu hannog nhw i barchu rhai o draddodiadau craidd clwb Caerdydd.”
Dywedodd Tim Hartley y bydd cefnogwyr yn cynnal gwrthdystiadau ar ddechrau’r tymor newydd er mwyn datgan eu hanfodlonrwydd.
Mewn datganiad dywedodd clwb pêl-droed Caerdydd fod y cyfarwyddwyr yn adolygu holl agweddau’r clwb er mwyn sicrhau llwyddiant yn y tymor hir, a’i fod hi’n rhy gynnar iddyn nhw wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y clwb eu bod nhw’n parchu hanes y clwb a’i safle yn y gymuned leol.
Ledley yn methu credu
Y bore ‘ma mae chwaraewr Celtic a chyn-chwaraewr Caerdydd, Joe Ledley, wedi trydar ei fod yn “methu credu’r hyn rwy’n ei glywed.”
“Mae clwb Caerdydd am newid yr aderyn glas. Mae’r aderyn glas yn etifeddiaeth!”
Parrott am gadw’r aderyn glas
Mae Aelod Cynulliad canol de Cymru, Eluned Parrott, wedi dweud fod yn rhaid i glwb Caerdydd “barchu barn y cefnogwyr.”
Ychwanegodd fod buddsoddiad ariannol yn rhywbeth i’w groesawu, ond “byddai’n ddiwrnod trist i’r clwb os yw arian yn bwysicach na hunaniaeth ddiwylliannol a hanes.”