Wylfa
Mae buddsoddwyr o China, yr Unol Daleithiau a’r Dwyrain Canol wedi dangos diddordeb mewn adeiladu adweithydd niwclear Wylfa B ar Ynys Môn.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Reuters mae pum cwmni wedi dangos diddordeb mewn adeiladu’r orsaf niwclear.
Maen nhw’n cynnwys cwmni Westinghouse ac Exelon o’r Unol Daleithiau.
Penderfynodd y cwmnïoedd Almaenaidd E.ON ac RWE npower gefnu ar eu cynllun £8 biliwn i adeiladu’r adweithydd fis diwethaf.
Dywedodd Reuters nad oedd eu ffynhonnell nhw eisiau cael ei enwi.
Ychwanegodd mai’r dewis cyntaf “fydd y cynigydd sy’n gallu cymryd y safle ac adeiladu arno cyn gynted a bo modd”.