Mae’r ganran o achosion troseddol sy’n cael eu gollwng yn ardal Heddlu Dyfed Powys gyda’r uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl ffigurau a gafodd eu rhyddhau gan y Cyfreithiwr Cyffredinol cafodd 874 o achosion troseddol eu gollwng yn Nyfed Powys yn 2011-12, sef 11.3% o’r holl erlyniadau yn yr ardal.

Y cyfartaledd yng Nghymru a Lloegr oedd 9.8%. Roedd canran Gogledd Cymru – 7.5% – gyda’r isaf o blith 43 ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr. Yn Ne Cymru gollyngwyd 10.2% o achosion, ac yng Ngwent 8.3%.

Yn 2010-11 roedd gan ardal Dyfed Powys y bedwaredd ganran uchaf allan o 43 ardal o ran achosion yn cael eu gollwng. Y ganran yn y flwyddyn honno oedd 13.2%.

Mewn ymateb, dywedodd Heddlu Dyfed Powys wrth Golwg360: “Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhwym wrth ganllawiau cenedlaethol ar erlyn troseddau.

“Mae nifer o resymau am ollwng achos. Er enghraifft, gall tystiolaeth newydd ddod i glawr; nid yw’r erlyniad yn gallu mynd yn ei flaen gan fod dioddefwr neu dyst yn tynnu tystiolaeth yn ôl neu’n gwrthod ei rhoi; nid yw o ddiddordeb i’r cyhoedd i barhau a’r erlyniad; neu, fod diffynnydd wedi pledio’n euog i droseddau mwy difrifol.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i bob trosedd ac yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i weinyddu cyfiawnder.”