Roedd Heddlu Gwent wedi dilyn y drefn gywir ar ôl i Leonard Hill ddiflannu, yn ôl ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Cafodd Leonard Hill, 64, ei lofruddio gan David Cook oedd wedi cael ei rhyddhau o’r carchar ac wedi symud drws nesaf iddo yn 2011.

Cafodd ei gorff ei guddio mewn ystafell wely yng nghartref Cook yn y Rhymni am 12 diwrnod cyn cael ei ddarganfod.

Roedd Heddlu Gwent wedi cael eu hysbysu am ddiflaniad Leonard Hill ac roedd camau wedi cael eu cymryd i geisio dod o hyd iddo.

Yn ôl ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) roedd yr heddlu wedi cymryd y camau priodol ac wedi dilyn y drefn gywir wrth ymchwilio i ddiflaniad Leonard Hill.

Ar 21 Mehefin 2011 roedd gweithiwr cymdeithasol Leonard Hill wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl iddo fethu a mynychu canolfan ddydd ers 14 Mehefin.

Cafwyd hyd i’w gorff yng nghartref David Cook ar 25 Mehefin.

Dywedodd Comisiynydd CCAH yng Nghymru, Tom Davies eu bod yn estyn eu cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Leonard Hill.

“Roedd ein hymchwiliad yn ymwneud â sut roedd Heddlu Gwent  wedi delio â’r amgylchiadau yn arwain at ddarganfyddiad corf Mr Hill ac wedi dod i’r casgliad bod yr heddlu a’r staff wedi delio’n briodol gyda’r mater,” meddai.

Carchar am oes

Yn gynharach heddiw cafodd David Cook, 65, ei garcharu am oes  am yr ail dro am lofruddio ei gymydog, Leonard Hill.

Cafodd Cook ei ryddhau o’r carchar ar drwydded yn 2009 ar ôl treulio 21 mlynedd dan glo am lofruddio athrawes ysgol Sul yn 1987.  Symudodd i fyw i fyngalo drws nesaf i Leonard Hill ddeg wythnos cyn y llofruddiaeth.

Mae teulu Leonard Hill wedi dweud bod ffaeleddau yn y gwasanaeth prawf wedi arwain at y llofruddiaeth.

Dywedodd yr ustus farnwr Griffith Williams na fyddai unrhyw gais i ryddhau Cook yn y dyfodol yn cael ei ystyried oherwydd difrifoldeb y drosedd.

“Fe fyddwch yn treulio gweddill eich oes yn y carchar,” meddai.