Gwesty Portmeirion
Mae pennaeth pentref Portmeirion ger Penrhyndeudraeth wedi croesawu ailasesiad glendid bwyd ar ôl i westy crand y pentref dderbyn sgôr o 0 allan o 5 ym mis Ionawr.
Dywedodd Robin Llywelyn wrth Golwg360 fod y sgôr gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn “ddim oll i’w wneud efo glendid ac yn ymwneud efo diffygion yn y gwaith papur.”
Ychwanegodd bod ail asesiad wedi ei gynnal a bod y cwmni’n disgwyl derbyn ei sgôr ddiweddaraf. Derbyniodd busnesau bwyd eraill Portmeirion – Bwyty’r Teras, Caffi Glas, a Chaffi Portmeirion –y sgôr uchaf o 5 allan o 5 yn yr asesiad a derbyniodd Castell Deudraeth 4 allan o 5.
‘Dim peryg salmonela’
“Doedd dim problem gyda ni efo’r asesiad gwreiddiol ac rydan ni wedi diswyddo’r prif gogydd ac wedi ail wampio’r gwesty,” meddai Robin Llywelyn.
“A ‘dan ni ddim yn derbyn bod problemau hefo glendid bwyd yma.”
Gan gyfeirio at straeon papur newydd, dywedodd: “Does dim peryg i neb gael salmonela yma, ac rydan ni’n ddig iawn bod rhai am geisio chwalu busnesau lleol ac adrodd straeon negyddol amdanyn nhw.”
Ychwanegodd Robin Llywelyn ei fod yn disgwyl sgôr newydd gwell y tro hwn ac y byddai sgôr o lai na 4 allan o 5 ddim yn dderbyniol i’r cwmni.