Gareth Williams
Mae’n bosib na chaiff dirgelwch marwolaeth yr ysbïwr MI6, Gareth Williams, byth ei ddatrys yn iawn, meddai’r crwner yn y cwest i’w farwolaeth heddiw.

Dywedodd Dr Fiona Wilcox ei bod hi’n “annhebygol” y bydd union amgylchiadau’r farwolaeth “byth yn cael eu hesbonio’n foddhaol.”

Er gwaetha’r ymchwiliad 21 mis gan yr heddlu, a saith niwrnod o gwest, dywedodd y crwner fod “rhan fwya’r cwestiynau mwyaf sylfaenol ynglŷn â marwolaeth Gareth yn parhau heb eu hateb.”

Wrth ddechrau ei dyfarniad naratif yn Llys y Crwner San Steffan, dywedodd Dr Fiona Wilcox ei bod hi’n “arbennig o bwysig” i beidio â dyfalu.

Cafodd corff Gareth Williams, yr athrylith fathemategol o Ynys Môn, ei ddarganfod yn noeth  mewn bag wedi ei gloi yn y bath yn ei fflat yn Pimilico, canol Llundain, ar 23 Awst 2010.

Mae ymchwiliad gan yr heddlu, a gostiodd miliynau o bunnoedd, wedi methu â dod i unrhyw gasgliadau.

Dirgelwch

Yn ôl patholegwyr, gwenwyno neu fygu oedd y ddau reswm mwyaf tebygol dros farwolaeth y dyn 31 oed.

Mae arbenigwyr wedi dweud y byddai Harry Houdini hyd yn oed wedi cael trafferth cloi ei hun yn y bag, tra bod cyfreithiwr y teulu yn awgrymu mai’r gwasanaethau cudd sydd y tu ôl i’r dirgelwch.

Er hynny, mae’r heddlu wedi methu â dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod unrhyw un arall yn bresennol.

Fe ddatgelwyd bod MI6 wedi aros wythnos cyn ceisio cysylltu â Gareth Williams pan fethodd a dychwelyd i’r gwaith ar ôl gwyliau. Mae nifer o fanylion am ei fywyd preifat hefyd wedi eu datgelu yn ystod y cwest. Daethpwyd o hyd i ddillad merched gwerth £20,000 yn ei fflat ynghyd â cholur a wig.

Roedd Gareth Williams yn anhapus yn byw yn Llundain adeg ei farwolaeth ac wedi cwyno wrth ei deulu am “dyndra” yn y swyddfa. Roedd i fod i symud yn ôl i GCHQ yn Sir Gaerloyw wythnos ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod.

Mae’r dirgelwch ynghylch ei swydd hefyd wedi profi’n anodd i Scotland Yard sydd wedi methu â holi ei gydweithwyr yn MI6 yn uniongyrchol.

Tystiolaeth

Roedd Dr Wilcox wedi beirniadu’r heddlu a MI6 ddoe am fethu â datgelu tystiolaeth yn ymwneud ag eiddo ar ddesg Gareth Williams.

Dywed Scotland Yard y byddan nhw’n ail-edrych ar y dystiolaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y cwest, a dywed y ditectif sy’n arwain yr ymchwiliad, Jackie Sebire, ei bod hi’n dal i gredu bod ei farwolaeth yn amheus.

Dywedodd Dr Wilcox y byddai’n rhaid ystyried bod y gwasanaethau cudd wedi bod yn gysylltiedig â’i farwolaeth ond dywedodd nad oedd “unrhyw dystiolaeth i brofi ei fod wedi ei ladd” gan ysbiwyr.

Ond ychwanegodd ei bod yn “annhebygol iawn” bod Gareth Williams wedi mynd i mewn i’r bag ar ei ben ei hun.

Doedd dim tystiolaeth chwaith, meddai, i awgrymu bod yr ysbïwr yn drawswisgwr, a bod y colur a ddarganfuwyd yn ei fflat yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn ffasiwn.