Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar ôl i Jac Codi Baw gael ei ddefnyddio yn ystod  lladrad mewn archfarchnad yng Nghastell Newydd Emlyn.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 3am bore ma.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Mark Jones roedd y JCB wedi cael ei ddefnyddio i geisio cael mynediad i archfarchnad CK.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd JCB yn cael ei yrru drwy’r dref yn ystod oriau mân bore dydd Llun neu a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.