Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl dod o hyd i gorff dyn 31 oed mewn tŷ ym Mae Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Ffordd James McGhan yn y Bae am 6.49am ddydd Sadwrn, Ebrill 28 lle cafwyd hyd i gorff y dyn.

Dywed yr heddlu nad oes esboniad am ei farwolaeth ar hyn o bryd ac mae eu hymchwiliad yn parhau. Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.

Mae dyn 29 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad a’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau heb gyhuddiad.