Mae’r tywydd garw wedi taro Cymru yn ôl y disgwyl.

Mae nifer o ffyrdd wedi cael eu cau oherwydd bod coed wedi disgyn, ac mae’r Bont Hafren M48 wedi ei chau i gerbydau ochr uchel oherwydd gwyntoedd cryfion.

Mae dynion tân y De, Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud eu bod nhw wedi bod yn brysur yn ymateb i alwadau yn deillio o’r tywydd gwael, ac mae pryderon y gall y gwyntoedd cryfion achosi difrod i doeau adeiladau yn Abertawe, Port Talbot, Rhydaman a rhannau o dde-ddwyrain Cymru.

Mae’r ffyrdd sydd wedi eu cau yn cynnwys ffordd ddeheuol yr A470 rhwng Llangurig a Rhaeadr, yr A408 ym Mhenow, Casnewydd, a ffordd ddwyreiniol yr A48 yn Nhresimwn (Bonvilston), Bro Morgannwg.