Yr Ods (Llun PR gan Mission Photographic: Mei Lewis)
Mae trefnwyr Maes B yn Eisteddfod Bro Morgannwg wedi cyhoeddi mai Yr Ods sy’n arwain lein-yp nos Sadwrn eleni.
Fydd y band yn cloi pedair noson o gigs a fydd yn wahanol iawn i’r arfer yn Eisteddfod Bro Morgannwg ym mis Awst, yn ôl y Trefnydd, Guto Brychan.
“Eleni, bydd Maes B yn cael ei gynnal ar lwyfan agored yn y maes ieuenctid, gan ychwanegu at yr ymdeimlad o ŵyl i greu awyrgylch arbennig,” meddai.
“Mae’r ymateb i’r syniad hwn wedi bod yn arbennig o bositif, a llawer o sôn ar wefannau fel Twitter dros y misoedd diwethaf, ers cyhoeddi’r syniad gwreiddiol.
“Rydan ni wedi bod yn awyddus i arbrofi gyda llwyfan agored ers peth amser, ac mae lleoliad yr Eisteddfod eleni’n gweddu’n berffaith i hyn, felly, o nos Fercher ymlaen, bydd Maes B yn digwydd ar y maes ieuenctid, sy’n agos iawn at Faes yr Eisteddfod ei hun.
“Bydd dim angen i wersyllwyr orfod meddwl am ddal bws neu gyrraedd yn ôl i’r maes ieuenctid ar ddiwedd y nos.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.
Y bandiau eraill
Bydd Maes B ar y maes ieuenctid yn cychwyn nos Fercher gyda Meic Stevens, Elin Fflur, Al Lewis Band, Tom ap Dan a Greta Isaac, ac yna nos Iau, bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Y Niwl, Sen Segur, Violas ac Eilir Pierce yn ymddangos.
Y Bandana, Masters in France, Swnami, Helyntion Jos y Ficar a Nebula, enillwyr Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru, sy’n chwarae nos Wener, ac Yr Ods, Creision Hud, Yr Angen, Candelas ac enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B fydd yn cloi’r wythnos ym Maes B.
“Rwy’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau lein-yp ardderchog ar gyfer Maes B eleni, gydag amrywiaeth eang o grwpiau a genres, a fydd yn sicr o apelio at gynulleidfa leol a chenedlaethol sy’n dod draw i Fro Morgannwg,” meddai Guto Brychan.
“Bydd gigs Maes B, gan gynnwys cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ddechrau’r wythnos yn cael eu cynnal ar y llwyfan perfformio ar Faes yr Eisteddfod ei hun.
“Mae hyn yn rhan o strategaeth yr Eisteddfod i ganoli nifer o weithgareddau, gan gynnwys Maes C ar y Maes ei hun eleni, ac mae’n ffordd arbennig o sicrhau bod cwmpas llawer mwy eang o bobl yn cael cyfle i fwynhau rhai o fandiau newydd Cymru ddechrau’r wythnos.
“O ran cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, rwy’n meddwl bod cael y cyfle i chwarae ar y llwyfan perfformio yn ogystal ag ym Maes B ei hun yn gyfle arbennig i unrhyw fand.”
Prynu tocynnau neu gystadlu
Gellir prynu tocynnau arlein yn www.eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau – 0845 4090 800.
Am ragor o wybodaeth am Maes B, ewch i www.maesb.com neu www.facebook.com/maesb. Gallwch ddilyn Maes B ar Twitter – www.twitter.com/maes_b.
Dylai unrhyw fand sy’n awyddus i gystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau anfon ebost at sioned@eisteddfod.org.uk cyn gynted â phosibl. Y wobr yw Tlws UMCA i’w ddal am flwyddyn ac £1,000. Cynigir sesiwn i’r enillydd ar C2 Radio Cymru ynghyd â sesiwn ym Maes B.