Ifor ap Glyn a hen doiled yng Nghastell Conwy
Ar ôl darlledu cyfresi ar y Tŷ Cymreig, ac ar dai moethus a diddorol yn Pedair Wal, mae S4C yn newid cywair heno trwy ddarlledu cyfres ar dai bach.

Bydd Tai Bach y Byd yn dangos toiledau gwahanol o bedwar ban byd, a dywed cyflwynydd a chynhyrchydd y gyfres,  Ifor ap Glyn, ei fod yn destun annhebygol a bod “hynny’n rheswm da dros edrych ar y pwnc”.

“Rydan ni’n sôn am rywbeth sy’n effeithio arnom ni gyd, a hynny mewn ffyrdd pwysicach nag y buasech chi’n meddwl”, meddai Ifor ap Glyn.

“Mae’r math o doiled sydd gennym ni yn dweud llawer amdanom ni fel pobl”.

Ar ei daith bydd Ifor ap Glyn yn chwilio am doiledau mwyaf diddorol Tsieina, Siapan, Bangladesh, Sbaen, yr Iseldiroedd, Lloegr, yn ogystal â’r tŷ bach Cymreig yng ngwaelod yr ardd.

Dywedodd Ifor ap Glyn y bydd y gyfres bedair rhaglen yn ddigon hwyliog ond ddim yn trin y pwnc fel jôc.

“Mi wnaethon ni ymweld â’r Golden Poo Awards sy’n dathlu hiwmor tŷ bach – ond fel ‘stỳnt’ i godi ymwybyddiaeth am y 2.6 biliwn o bobl yn y byd sydd heb dai bach” meddai’r cyflwynydd.

Yn ystod y gyfres mae Ifor ap Glyn yn ymweld â Bangladesh, lle mae toiledau’n brin, a Siapan, ble mae toiledau’n soffistigedig iawn ac yn “yn debycach i cockpit awyren na dim byd arall.”

Bydd y rhaglen ar S4C am 9pm heno.