Mae’r cwmni yswiriant o Gaerdydd, Admiral, wedi cyhoeddi cynnydd mewn trosiant o 9% yn nhri mis cyntaf y flwyddyn.

Mae disgwyl i’r cwmni gofnodi elw cyn-treth o £332 miliwn ar gyfer 2012, yn ôl eu hamcangyfrif.

Mae’r cwmni yn cyflogi 1,800 o bobol yn eu swyddfa yng Nghaerdydd, a 1,400 yn eu swyddfa yn Abertawe.

Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd y cwmni gynlluniau i symud eu tri swyddfa i leoliad newydd ger canolfan siopa Dewi Sant.

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr y cwmni, Henry Engelhardt, fod y busnes yn “parhau i dyfu.”

Mae’r cwmni, sy’n dweud eu bod nhw’n gyfrifiol am yswirio un ym mhob 10 car sydd ar heolydd Prydain erbyn hyn, yn dweud nad oes unrhyw newid wedi bod yn arferion hawlio yswiriant o’u cymharu â chwarter olaf 2011.

“Mae ein busnes yn parhau i dyfu a llewyrchu ac mae ein disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn yma yn parhau’n gadarnhaol a heb eu newid,” meddai Henry Engelhardt.

Mae Admiral, sy’n masnahcu dan frandiau Admiral, Bell ac Elephant, hefyd yn berchen ar y wefan cymharu prisiau Confused.com.