Mae nifer y prif athrawon benywaidd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi dyblu o fewn yr wyth mlynedd ddiweddaraf, yn ôl Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Mae’r ystadegau’r awgrymu bod 31.7% o brif athrawon yn ferched, o’i gymharu â 16.5% yn 2004.
Cynnyddodd nifer yr athrawon benywaidd i 70 mewn 222 o ysgoliomn uwchradd eleni.
Srch hynny nid yw nifer y prifathrawon mewn ysgolion uwchradd a chynradd, sef 56.5%, yn adlewyrchu’r ffaith bod 75% o weithlu’r ysgolion bellach yn ferched.
Ac er mai merched yw dau allan o bob tri o athrawon mewn ysgolion uwchradd, dynion, yn draddodiadol, yw’r rhan fwyaf o’r penaethiaid.
Mae’r ffigurau newydd yng nghrynhoad ystadegau blynyddol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru sy’n dadansoddi’r tueddiadau ymysg y 38,000 o athrawon cofrestredig Cymru.
Er bod merched yn dal yn y lleiafrif ymysg penaethiaid ysgolion uwchradd Cymru, mae’r gyfran o ferched sy’n athrawon ysgolion cynradd wedi cynyddu am yr wythfed flwyddyn yn olynol ac ar hyn o bryd mae’n 60.3%. Mae 84.5% o weithlu ysgolion cynradd Cymru’n ferched.
Dywed Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru bod y ffigyrau yn dangos bod rhagor o ferched yn dangos diddordeb mewn swyddi athrawon a phrifathrawon.
Ar ben hynny, mae nifer y merched sy’n dilyn Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yn awgrymu y bydd hyn yn cynyddu ymhellach.
‘Cydbwysedd’
Wrth groesawu’r newid, dywedodd Gareth Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion Uwchradd a Cholegau Cymru, sy’n cynrychioli’r rhan fwyaf o benaethiaid Cymru,, fod y “cydbwysedd rhwng dynion a merched yn arwain ysgolion uwchradd wedi newid cryn dipyn” dros y ddegawd diwethaf.
“Mae’n decach, ac, fel y mae ffigurau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru’n dangos, i’w disgwyl,” meddai.
“Yn nechrau’r 1990au, dynion oedd yn dal bron pob swydd rheolwr canol. Erbyn hyn, mae hynny wedi newid ac mae’r rhwystrau oedd yna’r adeg hynny wedi diflannu”.
Yn ôl Helen O’Sullivan, sy’n bennaeth Coleg Cymunedol Tonypandy ers pedair blynedd, nid yn unig mae merched sy’n athrawon yn fwy uchelgeisiol nag yn y 1990au, ond mae swydd pennaeth wedi newid mewn ffyrdd sy’n ei gwneud yn fwy deniadol i ferched.
“Maen nhw’n sylweddoli fod swydd pennaeth yn llawer mwy amrywiol nag oedd yn arfer bod,” meddai.
“Mae’n rhaid i benaethiaid fod yn fwy ymarferol, bod â phroffil uwch a gallu trin pobl yn well. Dyma’r math o sgiliau sydd gan lawer o ferched yn naturiol. Yn fy mhrofiad i, mae gan ferched sy’n ymgeisio am swyddi penaethiaid setiau cryfach o sgiliau nag yn y gorffennol. Maen nhw wedi dal llawer mwy o wahanol swyddi mewn ysgolion ac wedi cael hyfforddiant datblygiad proffesiynol helaeth.
“Ond, yn ddyn neu’n ddynes, mael swydd pennaeth yn hynod o heriol. Mae’n rhaid i ddynion a merched gael cefnogaeth lawn eu teuluoedd i allu gwneud eu gwaith yn iawn” meddai.
Meddai Eithne Hughes, sy’n bennaeth Ysgol Bryn Elian ers pedair blynedd, fod merched yn fwy hyderus wrth ymgeisio am swyddi penaethiaid erbyn hyn.
“Mae hynny’n help iddyn nhw dorri drwy’r ‘nenfwd gwydr’,” meddai. “Mae hefyd yn bwysig fod gennyn ni gydbwysedd rhwng dynion a merched ymysg penaethiaid fel bod addysg yn gallu manteisio ar gyfraniad y ddau ryw at arweinyddiaeth”.
Dywedodd Dr. Philip Dixon, Cyfarwyddwr Cymru undeb addysg yr ATL, bod y ffigyrau yn galonogol.
“Maen nhw’n dangos fod ysgolion Cymru’n symud i’r cyfeiriad iawn ac, yn ôl ystadegau’r llynedd, yn gyflymach nac erioed,” meddai.
“Mae’n debyg fod yna nifer o wahanol resymau dros y newid, ond mae polisïau mwy cyfeillgar i deuluoedd, mwy o ymwybyddiaeth y dylid cael cydbwysedd rhywiol a diflaniad ‘ffrindiau’n penodi ei gilydd’ yn siŵr o fod yn cael effaith.
“Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Mae’n dal yn annerbyniol fod tua dwy ran o dair o athrawon mewn ysgolion uwchradd yn ferched a dim ond un rhan o dair yn benaethiaid.
“Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i weld beth yw’r rhwystrau sy’n dal i gadw ein hysgolion rhag manteisio’n llawn ar dalentau’r merched hyn.”