Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfres o deithiau rhyngwladol yn cael eu cynnal rhwng mis Medi eleni a Mawrth 2013 er mwyn ceisio hyrwyddo masnach Cymru dramor.
Bydd y teithiau hyn yn ceisio denu cynrychiolwyr o fyd busnes Cymru i fynd gyda’r Llywodraeth o lefydd fel Tokyo, Toronto, San Francisco a Shanghai.
Yn ôl y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, sydd wedi cyhoeddi’r rhaglen o deithiau masnach, mae’r teithiau’n bwysig er mwyn “hyrwyddo busnesau Cymru ar draws y byd.”
Bydd y teithiau hyn, sy’n gobeithio mynd â busnesau Cymru i farchnadoedd allweddol mewn gwledydd eraill, yn mynd â chynrychiolwyr byd busnes Cymru i ymweld â nifer o sectorau yn Japan, Gogledd America, Gwledydd y Gwlff, Tsieina, Twrci a’r Almaen.
Mae ystadegau diweddaraf y Llywodraeth yn dangos fod allforion Cymru wedi codi 13.8% yn 2011, o’u cymharu â 2010, gyda chynnydd o 13.9% mewn allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a 13.7% i wledydd tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe welwyd cynnydd o £1,629 miliwn yng ngwerth allforion Cymru.
Ceisio gwerthu’r ‘wlad fach, gall’
Wrth gyhoeddi’r teithiau masnach newydd, dywedodd Edwina Hart mai’r amcan oedd “ehangu ein hymdrechion masnach a buddsoddi yn yr amgylchiadau economaidd anodd hyn, ac rydym wedi sefydlu tîm prosiectau mawr i arwain ar fasnach a buddsoddi.
“Mae teithiau masnach yn blatfform rhagorol ar gyfer codi proffil Cymru ar draws amryw o sectorau – o fwyd i dwristiaeth – ac yn fodd i gynyddu masnach a buddsoddi rhwng Cymru a gwledydd eraill.
“Trwy annog a helpu cwmnïau i allforio gallwn greu twf economaidd cynaliadwy ac mae gan fusnesau Cymru gyfraniad mawr i’w wneud,” meddai.
“Rydym eisoes yn adnabyddus ar draws y byd fel gwlad fach, gall sy’n fwy na pharod i weithio’n galed,” ychwanegodd.
“Dyma ein cyfle nawr i ddangos yr ymrwymiad a phenderfyniad yr ydym oll mor falch ohono, a dangos i’r byd bod busnesau Cymru’n gallu ffynnu yn y farchnad fyd-eang.”